Dewis Iaith:
Ar Ddydd Mercher 02/09/26, ddoth pawb at ei gilydd yn y stiwdio yn Byw’n Iach Arfon i groesawu Medi Harris ac Ela Letton-Jones yn ôl i Byw’n Iach Arfon ar ôl eu llwyddiant diweddar yng Ngemau’r Gymanwlad yng Nglasgow. Gystadlodd Ela yn y ras Dull Rhydd S13 100m Ferched yng Ngemau’r Gymanwlad 2026 a enillodd medal Arian, ac eleni oedd ail dro i Medi Harris cystadlu yn y Gemau.
Roedd y digwyddiad yn gyfle i ddathlu ei llwyddiant, ac i’w llongyfarch ar ba mor bell y mae’r ddwy wedi dod ers ei dyddiau’n mynychu gwersi nofio ysgol Byw’n Iach.

Cafodd plant y clybiau nofio lleol y cyfle i gyfarfod a thynnu lluniau gyda’r nofwyr, a gofyn cwestiynau megis “Ydych chi erioed wedi meddwl rhoi’r gorau iddi? Beth wnaeth eich helpu i ddal ati?” a “Sut ydych chi’n cydbwyso nofio â’r ysgol/Coleg a’ch ffrindiau?” yn ystod y sesiwn holi ac ateb, a chafodd llawer o gymorth defnyddiol gan y ddwy i gynorthwyo ei thaith nofio yn symud ymlaen.
Holodd rhai o’r plant “Beth yw eich hoff fwyd i fwyta cyn ac ar ôl ras?”, ac yr ymateb i hyn oedd carbs a phitsa, ateb gwnaeth plesio!
Roedd gweld y ddwy yn yr un lle dechreuodd ei thaith yn wir ysbrydoliaeth i’r plant lleol sydd ar ddechrau ei theithiau nofio, gan roi gobaith iddyn nhw y gallent nhw fod yn eistedd yn y cadeiriau yn ateb cwestiynau ryw ddydd.

Cyflwynodd Beth Lawton, aelod o fwrdd Byw’n Iach, gylch o flodau i’r ddwy ar ddiwedd y sesiwn, arwydd gennym ni i’w llongyfarch ar ba mor bell maen nhw wedi dod ers ei ddyddiau yn nofio yn byllau Byw’n Iach.
Diolch i bawb a fynychodd y digwyddiad a gwneud yn llwyddiant.
Diolch hefyd i Medi Harris ac Ela Letton-Jones – dymunwn bob lwc i chi’ch dwy yn eich teithiau nofio wrth symud ymlaen.