Gweithgareddau Hanner Tymor Chwefror 2022
Rydym yn falch o gyflwyno i chi ein gweithgareddau newydd ar gyfer yr Hanner Tymor Chwefror, gyda rhan fwyaf o’r gweithgareddau yn rhad ac am ddim! Digonedd o weithgareddau i’ch cadw chi’n brysur!
Mae gweithgaredd corfforol yn bwysig iawn i blant oherwydd nid yn unig y gall leihau’r risg o rai afiechydon ond mae’n cadw pwysau iach i’w cyrff ac o fudd i’w hiechyd meddwl.
Felly brysiwch, mae ein cynnig cyfyngedig dim ond yn para o’r 19.02.22 – 27.02.22!
Edrychwch isod ar yr holl weithgareddau gwych sydd ar gael i chi
- Aml Chwaraeon Blwyddyn 1 – 6 (6 – 11 oed)
- Aml Chwaraeon Blwyddyn 1 – 2 (6-7 oed)
- Camp Chwaraeon (8-11 oed)
- Sesiwn Pasbort Pobl Ifanc (11-15 oed)
- Mynediad am ddim i Ddosbarthiadau Ffitrwydd y prif rhaglen ar gyfer pobl ifanc (11-18 oed)
- Nofio am Ddim i Bobl Ifanc (8-16 oed)
- Inflatables yn y Pwll (8-11 oed)
- Cyrsiau Nofio Dwys
- Gwersi Swigod (0 – 3 oed)
- Sesiynau Tenis (4-7 oed , 8-12 oed)
- Chwarae Meddal Dan Do (0-5 oed)
Mae rhan fwyaf helaeth o’r gweithgareddau ar gael am ddim yn ein safleoedd ar draws Gwynedd gyda sesiynau yn amrywio o ganolfan i ganolfan!
Dyma linc i chi allu gweld mwy am y gweithgareddau rydym yn ei cynnal yr Hanner Tymor yma:
Gweithgareddau Hanner Tymor Chwefror 2022
Archebu:
Bydd modd archebu lle ar gyfer y sesiwn 10 diwrnod o flaen llaw a gallwch archebu lle drwy ffonio neu archebu ar-lein.
Ar gyfer archebu ar-lein, dilynwch y linc yma:
Dilynwch y linc yma am rifau cyswllt ein canolfannau:
Ymunwch gyda ni! Edrychwn ymlaen at eich croesau i’n canolfannau yn ystod Hanner Tymor Chwefror 2022!
Yn ôl i blog