Chwiliwch am y gweithgaredd, dosbarth neu chwaraeon rydych chi eisiau gymryd rhan ynddynt yn Byw'n Iach Plas Silyn...
Ymuno – Ffioedd a thaliadau
Consesiwn = Plant (0-15 oed), pobl ifanc (16-24), anabl a pobl dros 60 oed.
Oedran | Pris |
---|---|
Oedolyn | £19.90 |
Pobl anabl, pobl dros 60 oed +16 – 24 oed | £10.80 |
Plentyn | AM DDIM |
Pris taliad misol | Pris Debyd uniongyrchol -Rhaid talu am 6 mis- |
Pris tocyn blwyddyn | |
---|---|---|---|
Rhaid bod yn aelod | AELODAETH AM DDIM | ||
Ymweliad di-derfyn am fis | Ymweliad di-derfyn am flwyddyn | ||
Angen anwythiad i’r ystafell ffitrwydd | Anwythiad AM DDIM i’r ystafell ffitrwydd | ||
Ystafelloedd ffitrwydd, dosbarthiadau ffitrwydd, nofio cyhoeddus a chwaraeon raced* | |||
Consesiwn^ | £29.40 | £22.70 | £227 |
Oedolion | £45.20 | £33.90 | £339 |
Amser distaw** | £29.40 | £22.70 | £227 |
*Sboncen a Badminton ddim yn cynnwys plant o dan 16 oed.
**amser distaw = 9yb tan 4yp yn ystod yr wythnos a thrwy’r dydd yn ystod y penwythnosau.
^dim yn cynnwys plant o dan 16 oed.
Noder: Nid yw pob cyfleuster ar gael ymhob canolfan.
Aelodaeth Anabl
Mae gweithgareddau nofio ac ffitrwydd yn elfennau hanfodol o fywydau llawn. Mae pobl yn dewis cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a hamdden i fwynhau eu hunain, ymlacio ac er mwyn eu hiechyd. Mae gweithgareddau chwaraeon a hamdden yn gwella lles cyffredinol. Mae Byw’n Iach yn cynnig aelodaeth anabl wnaiff alluogi cwsmeriaid anabl ddefnyddio cyfleusterau am bris disgowntiedig.
Beth sydd ar gael
- Nofio: Disgownt nofio i blant ac oedolion anabl yn ystod oriau nofio cyhoeddus. Mae pob pwll yn cynnig 1 sesiwn am ddim yr wythnos, cysylltwch gyda eich pwll nofio lleol am rhagor o wybodaeth.
- Ystafell Ffitrwydd: Disgownt i blant ag oedolion anabl i unrhyw Ystafell Ffitrwydd Byw’n Iach. Bydd angen anwythiad i bob ystafell ffitrwydd unigol.
- Hurio Cwrt: Disgownt ar gyrtiau badminton/prif neuadd. Cysylltwch â’r Ganolfan Hamdden i gael gwybod beth yw’r oriau agor a’r argaeledd.
Gofalwyr
Caiff hyd at ddau ofalwr fynychu gyda aelod anabl pan yn cymeryd rhan mewn gweithgareddau o fewn Canolfannau Byw’n Iach yn rhad ac am ddim. (Mae’r cost anwythiad ar gyfer yr Ystafell Ffitrwydd yn dal i fod yn berthnasol)
Amodau aelodaeth anabl
I fod yn gymwys am aelodaeth anabl Byw’n Iach mae angen cyflwyno un o’r canlynol pan yn cwblhau y ffurflen aelodaeth:
- Lwfans Byw I’r Anabl (Dylech ddangos llyfr lwfans neu hysbysiad)
- Lwfans Gweini (Dylech ddangos tystiolaeth o lwfans)
- Credyd Treth I’r Anabl (Dylech ddangos llythyr hawl)
- Lwfans Cefnogi Cyflogaeth/Budd-dal Analluogrwydd
- Taliadau Annibyniaeth Bersonol
Ble i gael cerdyn
- Mae cerdyn aelodaeth ar gael mewn unrhyw un o Canolfannau Byw’n Iach yn dilyn i ffurflen aelodaeth gael ei chwblhau.
- Bydd yr unigolyn yn gorfod talu am gardiau a gollwyd, a chardiau sydd wedi’u dwyn neu wedi’u difetha.
Defnydd o’r cerdyn
- Mae’n rhaid i’r aelod ddangos eu/ei cerdyn aelodaeth pan yn mynychu neu yn talu am y cyfleuster.Os na fyddent yn gwneud hyn, bydd rhaid iddynt dalu’r gyfradd arferol.
- Mae Cyngor Gwynedd a Byw’n Iach yn cadw’r hawl i adolygu’r amodau hyn ar unrhyw adeg.
- Bydd newidiadau i’r amodau defnydd yn cael eu hysbysebu yn y cyfleusterau perthnasol 28 diwrnod cyn iddynt ddod i rym.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a’ch canolfan lleol.